Blog L342n

Cartref

Nôl

Gwybodaeth

333: Of Course, the Personality is Gone

🏴󠁧󠁢󠁥󠁮󠁧󠁿

Gradd:
9/10

Hyd:
00:40:25

Blwyddyn Rhyddhau:
2015

Dyddiad Gwrando:
07.08.2024


Adolygiad

Cân diwethaf ar y wefan Bull of Heaven a mae'n rhyfedd iawn. Mae'r gân yn dechrau gyda gitâr caled a drymiau, gyda crashiau uchel yn y trac drwm, a chordiau rhyfedd gitâr ar ben hyn. Mae hyn yn parhau am rai amser, gyda beth sy'n teimlo fel dim newidiadau o gwbl. Ar tua 10 munud a 40 eiliad, mae'r gân yn torri i mewn alaw syntheseisydd rhyfedd heb unrhyw rhybudd, ac yna'n dechrau i chwarae trac canu ar ben hyn, ond mae'n gwyrgam ac yn torri'n allan weithiau. Ar tua 13 munud, mae'r drymiau a gitâr yn dechrau eto, ond dim am hir, achos ar 15 munud, mae'n newid eto i un mwy drac syntheseisydd rhyfedd sydd ddim yn perthnasol o gwbl i'r dolen gitâr a drwm. Ac yna mae'n newid nôl i'r drymiau ar 16 munud. Dydy'r gân ddim yn gwneud synnwyr, ac allan o'r dolen gitâr a drwm, popeth yn dilyniant hap o swn a chordiau, yn daflu i ei gilydd heb feddwl am os byddai'r seiniau'n swnio'n da. Ar ôl rhai mwy newidiadau mewn traciau, mae'r gân yn dechrau i fod mwy gwyrgam, ond yna'n newid nôl, eto, i'r dolen drwm a gitâr heb unrhywbeth rhyfedd. Yn union fel y dolen ar y dechrau. Does dim llawer i ddweud am hyn, mae'n dim ond, llanast hap. Er gwaethaf hyn mwynheuodd Lân hyn y gân hyn yn llawer!