Mae'r cân hon yn dilyniant i 005: A Lovely Pear, a mae'n defnyddio
llawer o syniadau cyffelyb. Mae'r cân yn dechrau gyda dolen gitâr
eto, ond mae'n wahanol i 005, wrth gwrs. Hefyd mae'r cân yn defnyddio
trac glaw yn y cefndir, fel 005, ond eto mae'n wahanol. Mae'n teimlo
fel mae'r cân eisiau i ddilyn ble diwedodd 005, achos mae'n defnyddio
trac llais gwyrgam, fel y diwedd o 005. Mae'r trac llais yn swnio'n
fel llafarganu isel traw, a mae hyn yn ategu yr offerynau'n iawn i
greu awyrgylch dawel, fel 005. Yn yr ail segment y cân, ar ôl y
distawrwydd ar saith funud, mae'r glaw yn stopio, fel 005, a mae'r dolen
gitâr yn parhau. Mae'r llais yn newid hefyd, mae'n dal i swnio'n fel
llafarganu, ond mwy fywiog na'r rhan cyntaf. Weithiau, mae'r cân yn
defnyddio newid mewn cyfaint ac adleisiau yn y segment hyn, ac yn personol,
mae'n paru hyfryd. Mae Lân yn meddwl ei fod e'n teimlo fel fod yn hanner
cysgu o gwmpas tân gwersyll, tra mae'n defod yn digwydd yn hwyr yn y
nos, ond rydych chi'n rhy blino, a rhy ymhell o gartref i ddeall unrhywbeth.
Mae'r swn ychydig o glychau, ac y swn o griced yn y cefndir ger y
diwedd gydag y llafarganu yn pwysleisio'r teimlad hyn, ac yn ei marn
Lân, mae'n creu profiad unigryw ac arbennig sy'n trosglwyddadwy iawn
iddi hi. Yna, yn y tri funud diwethaf, mae'n llafarganu yn dechrau i
fod yn mwy dawel, ac yna gallech chi clywed y cricedau ac y gitâr yn
unig, a nawr, mae'r defod yn dechrau i stopio a rydych chi'n cysgu.