Blog L342n

Cartref

Nôl

Gwybodaeth

329: She is as the Nights are Horrible, Pt. 1

🏴󠁧󠁢󠁥󠁮󠁧󠁿

Gradd:
9/10

Hyd:
00:37:49

Blwyddyn Rhyddhau:
2015

Dyddiad Gwrando:
10.08.2024


Adolygiad

Mae'r gân hon yn canolbwyntio ar seiniau gitâr, a drôn yn cael ei greu gan gitâr. Mae'n trac sy'n teimlo fel aros, achos mewn ffordd, mae hyn yw beth dych chi'n wneud pan wrando i'r gân. Mae'n teimlo fel bydd y gân yn newid i rywbeth wahanol a mwy dwys llawer o hamserau yn y gân, am enghraifft pan roedd y gitâr isel yn ychwanegu ar y marc 2 munud, rydych chi'n meddwl efallai'r gân yn newid, fodd bynnag does dim newid a mae'n parhau fel hyn am rywbeth fel 5 munud, cyn newid eto i ddim ond defnyddio'r drôn yn y cefndir yn unig, ac yna'n parhau fel gyn. Ar tua 9 munud, mae'r gân yn wneud hyn eto, ond mae'n cadw'r cordiau gitâr. Ond yr amser hyn mae'n newid ar ôl y segment hwn, ac yn dechrau i ddefnyddio swn gitâr eraill ar ôl hyn, uchel traw parhaol tôn sy'n newid i fod yn gwyrgam mewn dolen, pan mae'r cordiau isel gitâr yn chwarae ar ben. Mae'r gân yn defnyddio gwyrgam yn hwyrach hefyd, ond mae'n defnyddio'n wahanol i greu swn wahanol. Trwy'r weddill y gân, mae'n defnyddio llawer o dechnegau eraill gyda'r gitâr i greu seiniau gwahanol ac ychwanegu i'r awyrgylch melancolig mae'r gân yn greu ledled. Ar tua 20 munud, mae'r gân yn dechrau i ddefnyddio swn wahanol i gitâr, mae'n alaw electroneg, gyda seinaiu gwyrgam crash yn y cefndir ac ar ôl mae'r gitâr, mae'n teimlo'n rhyfeddol. Mae'r awyrgylch a swn o'r gân yn anhygoel, does dim unrhywbeth eraill i ddweud am hyn, mae'n angen i chi wrando i'r gân i ddeall. Mae'n newid nôl i'r gitâr o'r dechrau gyda 6 munud i fynd, ac yn parhau fel hyn i'r diwedd, a mae hyn yn ffordd perffaith i ddiwedd y gân, yn cymryd y gwrandwr nôl i'r dechrau pan doedd dim byd yn newid fel ffurf o newid. Trac rhyfeddol, byddai'n wrando eto.